Monday, 16 July 2007

Elo bachs ^_^

Reit gen i ddim syniad pam yn uffern ydw i'n neud blog.. na pam mae'n Cymraeg chwaith. Dwi just eisie gwella iaith fi I suppose... Fel da chi'n weld, mae'n crap =P

Beth bynnag, enw i 'di Rhian, dwi'n 16 mlwydd oed a dwi'n byw ym Mhowys =] Dwi'n eitha enwog, o ie. Gen i gerdd yn y llyfr 'Dyma Fy Mhowys' a wel.. dwi jyst moooor olygus, ma pawb yn nabod i =P ***

*** roedd un o'r rheini yn gelwydd. Rhaid i chi ddyfalu pa un.

Felly... mwy na thebyg does dim llawer o bobl ar famma yn siarad Cymraeg, ac fydd y rhai sydd yn heb unrhyw ddiddordeb yn Rhian bach, sydd yn mor boring a stondin carpedi. O, i ddweud y gwir mae stondins carpedi'n gallu bod yn reit diddorol o__O

hwylion fawrion,

ffrinj -x

0 comments: