Wednesday, 18 July 2007

P'nawn da

Reit, so hyd yn hyn mae'r holl fusnes blogio yma 'di bod yn rîl lwyddiant tydi! Ond then again does gen i ddim syniad sut i weithio'r thing 'ma, ac i fod yn onest dwi'm yn credu fod gan unrhywun ddiddordeb yn ramblings fi.
Ella os dwi'n actually ddweud rhywbeth diddorol, fydd rhywun yn weld hwn o_O
Na.. dwi'm yn meddwl, rhywsut -_-
Wel beth bynnag, dwi di cael fy nghroundio, sydd jyst yn CRAP. Ac mae e mor heulog tu allan AM UNWAITH. Dwi'n styc yn fanma yn trio meddwl am rhywbeth diddorol i neud. Ac y syniad gorau dwi di cael hyd yn hyn ydi ddechrau blog Cymraeg.
Grêt.
Buaswn i'n wneud flog ond does gen i ddim microffôn. Dam.
Well i mi fynd beth bynnag. Dwi'n bôrd stiff.
Ta ra lyflis <3

1 comments:

Rhys Wynne said...

Licio enw'r blog!

Mae dy flog braidd yn pinc ac yn anodd i'w ddarllen.

Mae yn lot oflogiau Cymraeg eraill ar www.blogiadur.com